Yn ôl i Flaenau Ffestiniog

Ydych chi wedi byw yn nhre Blaenau Ffestiniog neu'r cyffiniau? Efallai y byddech chi'n cofio rhai o'r digwyddiadau, lleoedd neu gymeriadau yng Nghasgliad Gwilym Livingstone EvansYdych chi wedi byw yn nhre Blaenau Ffestiniog neu'r cyffiniau? Efallai y byddech chi'n cofio rhai o'r digwyddiadau, lleoedd neu gymeriadau yng Nghasgliad Gwilym Livingstone Evans

Mwy am Gwilym Livingstone Evans

Ffotograffydd o Flaenau Ffestiniog oedd Gwilym Livingstone Evans (1916-1994). Roedd ei gasgliadau, a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn dilyn ei farwolaeth ym 1994, yn cynnwys nifer helaeth o ddelweddau o'r ardal leol ac o bersonoliaethau lleol.

Dechreuodd diddordeb Evans mewn ffotograffiaeth pan gafodd gamera Kodak Brownie fel anrheg gan ei chwaer ac o 1963 hyd ei farwolaeth, tynnodd nifer o luniau o wahanol ddigwyddiadau ac achlysuron ar gyfer papurau newydd lleol fel y Cambrian News a Gwasg y Sir, Bala.

Nid oes gan lawer o'r delweddau hyn unrhyw fanylion cyfatebol ynghlwm wrthynt ac felly nid oes modd eu hadnabod.

Delweddau anodwyd
21343
Annotations
22746